Beth yw’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR)?
Mae’r gyfraith newydd yn ymwneud â data personol a sut mae’n cael eu casglu, eu cadw a’u defnyddio. Darllenwch fwy...
Yr hyn y mae’n ei olygu i mi?
Mae’r Coleg yn gweithio’n ganolog ar rai o’r gofynion newydd ond mae yna bethau y mae’n rhaid i bob aelod o staff eu gwneud hefyd. Darllenwch fwy....

Mae’r Coleg yn gweithio’n ganolog ar rai o’r gofynion newydd ond mae yna bethau y mae’n rhaid i bob aelod o staff eu gwneud

Hyfforddiant Diogelu Data
Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol
Arferion da cyffredinol
Gwiriwch eich droriau, eich cypyrddau a’ch cyfrifiadur. Dilëwch e-byst diangen a ffeiliau electronig a phapur sy’n cynnwys data personol.
Darllenwch fwy....
Adroddwch am unrhyw dorri diogelu data i’r Swyddog Diogelu Data ar unwaith!
Mae’n rhaid i’r Coleg adrodd am doriadau i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth o fewn 72 awr o ddarganfod y toriad.
Cysylltwch â SDD Sharon Barron.
Gweithdrefn adrodd am doriadau

Arferion da cyffredinol

  • Ni ddylai’r Coleg gadw data personol diangen a dylai gadw’r wybodaeth bersonol y mae ei hangen yn unig.
  • Mae pob aelod o staff yn gyfrifol am y ffeiliau a gedwir ganddynt ar eu cyfrifiadur, megis e-byst neu ar ffurf copi caled yn y swyddfa neu gartref. Dylid cadw’r ffeiliau hyn yn ddiogel, ac yn ddelfrydol wedi’u hamgryptio neu ar ddyfeisiau wedi’u hamgryptio, neu ar glo mewn cypyrddau a droriau.
  • Gwiriwch eich desg a’ch cypyrddau am gopïau caled o ffeiliau sy’n cynnwys data personol. Dylid cadw data personol dim ond os oes rheswm dilys dros wneud hynny, ac am gyfnod cyfyngedig yn unig. 
  • Mae’r amserlen sy’n atodedig i’r Polisi Diogelu Data’n nodi am ba mor hir y dylid cadw gwybodaeth Polisi Diogelu Data
  • Dylid torri neu ddinistrio papurau sy’n cynnwys data personol fel gwastraff cyfrinachol. Dylai fod peiriant rhwygo papur ym mhob swyddfa gyfadran
  • Gwiriwch ar Outlook am e-byst sy’n cynnwys data personol. Gwiriwch os yw’n rhaid i chi eu cadw neu eu dileu. Os oes rheswm dilys dros eu cadw, symudwch y data i ffolder e-byst ar wahân neu ffolder archifo, neu ffolder wedi’i hamddiffyn gan gyfrinair ar y gyriant Q fel eu bod yn hawdd dod o hyd iddynt a’u dileu yn y dyfodol.
  • Cyfeiriwch at yr amserlen gadw i weld am ba mor hir y gallwch chi gadw data.
Scroll to top